A ddylech fod yn poeni am siwgr?

Prin na ellir gwylio’r teledu neu edrych ar gylchgrawn dyddiau yma heb ddod wyneb yn wyneb a straeon brawychus am “siwgr-gwenwynig”. Ond beth yw’r gwir am y pleser melys hwn, ac, oes  angen poeni?

Mae miloedd o bobl ledled Cymru’n dioddef o glefyd y galon, diabetes, canser a gordewdra, a mae’r niferoedd yn mynd yn uwch bob dydd. Mae rhai yn beio’r tŵf yma yn uniongyrchol ar siwgr ond mae’r gwir yn fwy cymhleth na hynny.

Ydy, mae gormod o siwgr yn arwain at roi pwysau ymlaen, ond mae gormod o unrhyw galorïau yn arwain at hyn.

Yn wreiddiol braster oedd y bwgan gan ddietegwyr ac ymgynghorwyr y llywodraeth, ac o’r herwydd gwelwyd llawer mwy yn bwyta bwydydd braster-isel. Ond y gwir yw, fod y bwydydd braster-isel yma yn llawn siwgr a melysion! Does dim syndod felly nad oeddynt yn datrys y broblem.

Yn ddiweddar, mae nifer o ‘sêr’ enwog wedi bod yn hyrwyddo ffordd o fyw ‘di-siwgr’ sy’n golygu newidiadau radical i’ch ffordd o fwyta. Maent yn mynd mor bell a galw siwgr yn ‘llofrudd’ neu’n ‘gyffur’. Sugar... come in all shapes and sizes

Fel meddygon teulu rydym yn cynghori yn erbyn y dietau cyfyngedig hyn gan nad ydynt yn llesol i’ch corff. Mewn gwirionedd yr unig beth maent yn wneud yw cyfnewid un math o siwgr am fath arall fel mêl neu ‘maple-syrup’. Blasus iawn ac yn llawn meicro-faetholion defnyddiol, ond dal yn siwgr!

Yr unig ffordd i ddatrys y brobem yw i fwyta diet cytbwys, llawn ffrwythau a llysiau, sydd yn llawn siwgr naturiol. Trwy fwyta rhain mi gewch eich pleser melys ond byddwch hefyd yn bwyta rhyfeddod naturiol sy’n llawn fitaminau, mwynau a ffibr.

Mae bwyd wedi ei brosesu a phrydau parod yn aml yn llawn o siwgr, felly pam ddim annog y teulu cyfan i  fynd ati i goginio prydau cartref blasus? Does dim angen rhoi’r gorau i bopeth melys ond fe synnwch cymaint medr newidiadau bychain i’ch ffordd o fyw eich helpu. Araf a chyson yw’r nôd a bydd eich corff yn ddiolchgar iawn!

Eleni, cyflwynir “treth ar siwgr” ym Mhrydain a bydd diodydd melys, llawn siwgr yn costio llawer mwy. Dyma gwis i chi!

Wyddoch chi na ddylai plant fwyta mwy na PHUMP (5) llwy de o siwgr y diwrnod ( yn cynnwys popeth maent yn fwyta ac yfed)?

Sawl llwy de o siwgr feddyliech chi sydd mewn can o bop arferol? Choeliech ch byth ond  mae  9 llwy de ymhob can!

Cysylltiadau Defnyddiol

Am gyngor ar fwyta’n iach ewch i’r wefan CIG yma….

Mae’r wefan yma am plant a siwgr hefyd yn dda iawn…