Ein nod yma yn Iechyd Bro Ddyfi yw darparu’r gwasanaeth gofal sylfaenol gorau un. Er mwyn caniatáu inni wneud hyn, rydym yn gyson yn asesu ein ffyrdd o weithredu er mwyn sicrhau bod profiad y claf cystal ag y gall fod.
Wrth inni nesu at y flwyddyn newydd, rydym yn cyhoeddi mentrau newydd fydd yn gwella’ch profiad o ddelio gydag Iechyd Bro Ddyfi. O’r wythnos sy’n dechrau’r 6ed o Ionawr 2020, byddwn yn cyflwyno’r tri gwelliant canlynol i’r feddygfa:
- Gwneud Apwyntiadau – ffurflen gwneud apwyntiadau ar-lein newydd
- Preifatrwydd Cleifion – system giwio newydd yn y dderbynfa
- Ffonau Symlach – system ffôn newydd sy’n seiliedig ar opsiynau
Darganfyddwch fwy am y mentrau hyn isod:
1. Gwneud Apwyntiad
Gallwch gwblhau ffurflen ar Wefan Bro Ddyfi i ofyn am apwyntiad. (http://www.dyfivalleyhealth.org/make-an-appointment/)
Gofynnir i chi am wybodaeth gyswllt amrywiol, y rheswm dros yr apwyntiad, ac, a ddymunwch gael apwyntiad wyneb yn wyneb neu alwad ffôn. Yna bydd un o’r tîm yn eich galw yn ôl i drefnu eich apwyntiad.
Bydd cyfyngiad ar nifer yr apwyntiadau sydd ar gael, ond byddwn bob amser yn ceisio sicrhau eich bod yn cael apwyntiad cyn gynted ag y bo modd.
2. Preifatrwydd Cleifion
Er mwyn cynyddu preifatrwydd cleifion sy’n siarad â’r dderbynfa rydym wedi cyflwyno system giwio “Galw Ymlaen” newydd.
Byddwn nawr yn gofyn i’r holl gleifion aros y tu ôl i’r llinell giw ddynodedig ac aros yno nes eu bod yn cael eu galw ymlaen. Byddwn hefyd yn adeiladau bwth i chi sefyll y tu mewn iddo i gynyddu preifatrwydd ymhellach.
3. Ffonau Symlach
Er fod gan y feddygfa 10 llinell ffôn ar gael, yn ystod y cyfnodau prysuraf gall gymryd
Yn dibynnol ar y rheswm dros eich galwad, bydd y fenter newydd hon yn caniatáu i chi ddewis gyda phwy y mae angen i chi siarad. Er enghraifft, pwyswch 1 ar gyfer y dderbynfa, pwyswch 2 i gael canlyniadau profion, ac ati. (Bydd yr opsiynau llinell terfynol yn cael eu penderfynu arnynt maes o law).
Rydym yn sicr bydd y syniadau newydd hyn yn eich helpu chi a’ch profiad gyda Iechyd Bro Ddyfi .