Disgwylir i lansiad ap GIG newydd yng Nghymru, Consultant Connect, leihau’r angen i drigolion Powys deithio’n ddiangen i gael atgyfeiriadau a derbyniadau ysbyty.

Mae’r ap Consultant Connect wedi cael ei datblygu’n gyflym i’w ddefnyddio yn y GIG yng Nghymru i helpu’r ymateb i COVID-19, a bydd yn caniatáu i glinigwyr gael gafael ar gyngor arbenigol yn gynt o lawer nag y gellir ei wneud ar hyn o bryd. Bydd hyn yn darparu mwy o opsiynau clinigol i dimau gofal sylfaenol a chymunedol lleol a fydd o fudd i gleifion nid yn unig yn ystod yr achosion o COVID-19 ond hefyd yn y tymor hwy.

Trwy gael gafael ar gyngor cyflym bydd yr ap newydd yn helpu i atal derbyniadau ac atgyfeiriadau diangen i’r ysbyty, ac yn sicrhau bod y rhai sydd angen triniaeth ysbyty yn cael eu rheoli’n fwy effeithiol.

Mae’r gwasanaeth craidd, sy’n cael ei gyflwyno ledled Cymru, yn rhoi meddygon lleol, cymdeithion meddygon, nyrsys arbenigol ac ymgynghorol a chlinigwyr arbenigol lleol eraill mynediad at ddarparwyr gofal eilaidd a all roi cyngor sy’n briodol i anghenion y claf.

Mae clinigwr Powys yn cyrchu’r gwasanaeth naill ai trwy ddeialu rhif ffôn neu ddefnyddio’r ap Consultant Connect. Ar ôl dewis arbenigedd o ddewislen, maent yn gysylltiedig ag arbenigwr mewn 25 eiliad ar gyfartaledd.

Dywedodd Dr Jeremy Tuck, Cyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol ar gyfer Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:

“Nid yn unig y mae’r ap hwn yn helpu i gynnal mynediad at wasanaethau hanfodol yn ystod COVID-19, ond mae hefyd yn cefnogi cyflwyno ein strategaeth iechyd a gofal ar gyfer Powys trwy fanteisio ar dechnoleg ddigidol i ddod â mwy o ofal yn nes adref.

“Bydd llawer o’n cleifion wedi cael y profiad o gael eu cyfeirio at arbenigwr ysbyty i gael archwiliad. Mae natur wledig Powys yn golygu y gall yr apwyntiadau cleifion allanol hyn ddigwydd yn ein hysbytai cymunedol gydag ymgynghorwyr sy’n ymweld, neu efallai y bydd angen taith at Ysbyty Cyffredinol Dosbarth cyfagos. Gall Consultant Connect ddarparu cyngor ar unwaith ac atal yr angen am ymweliad â’r ysbyty.

“Gall gweithiwr iechyd proffesiynol ym Mhowys ddefnyddio Consultant Connect i gael gafael ar farn arbenigol yn gyflym. Er enghraifft, gall ymgynghorydd mewn diabetes ddarparu cyngor i’n nyrsys arbenigol diabetes, fel y gallant yn eu tro ddarparu’r cyngor a’r driniaeth orau i’w cleifion. Mae’n arbed amser i gleifion a chlinigwyr Powys, ac mae hefyd yn lleihau’r angen i deithio i’r ysbyty. ”

Cyhoeddodd Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething, weithrediad Consultant Connect ledled Cymru’r mis diwethaf, gan ddweud:

“Rwy’n falch iawn ein bod yn gallu dechrau cyflwyno’r Consultant Connect yn y GIG yng Nghymru. Bydd hyn yn helpu i gefnogi gofal sylfaenol i bennu’r driniaeth gywir ar gyfer eu cleifion. Ar hyn o bryd bydd yn arbed amser hanfodol i weithwyr proffesiynol gofal iechyd ac yn lleihau faint o ymweliadau ysbyty sydd eu hangen ar gleifion, ar adeg pan mae ein GIG yn wynebu pwysau ychwanegol. Yn y tymor hir mae defnyddio’r dechnoleg hon yn rhan bwysig o’n cynllun ar gyfer dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol, Cymru Iachach. Mae gwneud y gorau o dechnoleg yn hanfodol i ni adeiladu gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol modern, lle darperir gofal yn agosach at adref. ”

Iechyd Bro Ddyfi oedd un o’r meddygfeydd cyntaf i gyflwyno’r ap Consultant Connect y mis diwethaf. Dywed Dr Sara Bradbury-Willis o Iechyd Bro Ddyfi:

“Rydym yn gweld buddion i’n cleifion yn barod. Trwy’r ap hwn, gallwn gysylltu ag ymgynghorydd ysbyty yn gyflym, fel arfer o fewn ychydig eiliadau. Mae eu gwybodaeth arbenigol, ochr yn ochr â’n harbenigedd gofal sylfaenol a’n gwybodaeth am hanes meddygol cleifion, yn ein helpu i ddarparu’r gofal a’r driniaeth gywir yn y fan a’r lle. Mae hyn yn ein helpu i ddarparu gwell triniaeth i’n cleifion, yn gyflymach, gyda llai o deithio. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ystyried y cyfyngiadau pwysig sydd ar waith i atal Coronafeirws rhag lledaenu, a bydd yn parhau i’n helpu i ddarparu gofal yn nes at adref yn y dyfodol.”

Mae 12 meddygfa ym Mhowys wedi cofrestru yn y cynllun ynghyd â’r gwasanaethau Allan o Oriau a ddarperir gan Shropdoc. Mae timau cymunedol gan gynnwys cymdeithion meddyg a nyrsys arbenigol hefyd yn mabwysiadu’r dechnoleg clinigwr-i-glinigwr newydd.

Ychwanegodd Dr Tuck:

“Mae’r buddsoddiad hwn gan Lywodraeth Cymru yn ein helpu i gyflawni ein huchelgais ar gyfer Powys iach, gofalgar. Mae wedi bod yn ymdrech tîm go iawn yn cynnwys clinigwyr cynradd a chymunedol lleol, gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru, arbenigwyr ysbytai o fyrddau iechyd cyfagos, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a’n gwasanaethau cymorth ein hunain yma yn y bwrdd iechyd. Rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno’r gwasanaeth i fwy fyth o glinigwyr, fel y gall hyd yn oed mwy o gleifion elwa.”

Mae mwy o wybodaeth am gyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar gael o https://gov.wales/new-app-provide-specialist-advice-gps-seconds