Clinigau

Clinigau

Cynnigir dewis eang o glinigau gennym. Cliciwch ar enw’r clinig am fwy o wybodaeth.

Clinig Diabetes

Clinig Diabetes

Rydym wedi ein hyfforddi i gynnig gofal diabetig uwch yn cynnwys llawer o’r gwasanaethau a ddarperir yn draddodiadol mewn clinigau ysbytai.

Mae’r clinigau yn cael eu rhedeg gan Feddygon Teulu, nyrsys practis a nyrsus arbenigol.

Nid yn unig byddwn yn darparu’r holl sgrïnio a argymhellir yn genedlaethol i geisio atal cymhlethdodau ond byddwn hefyd yn dysgu chi sut i chwistrellu insiwlin a chyffuriau chwistrellu modern eraill. Gallwn reoli newid o un gyfundrefn triniaeth i un gwahanol er mwyn rhoi’r gofal personol orau bosib i’n cleifion.

Mân Anafiadau

Mân Anafiadau

Mae ein meddygon teulu a’r nyrsus wedi eu hyfforddi i asesu a thrin mân anafiadau.

Gallwn drin briwiau, ysigiadau, asesu torriadau posib a thrin mân anafiadau i’r pen.

Mae’r gwasanaeth yma ar gael rhwng 8.30 yb a 6.30 yh yn y ddwy feddygfa ar gyfer cleifion cofrestredig ac anghofrestredig.

Clinig Gwrthgeulyddion

Clinig Gwrthgeulyddion

Rydym yn cynnig gwasanaeth monitro pob meddyginiaeth teneuo’r gwaed.

Rheolir Warfarin trwy brofion pwynt gofal gan ddefnyddio dyfais sydd yn rhoi canlyniad y prawf yn syth i glinigydd. Rhown siart mesur dos dyddiol i bob claf, sy’n caniatau gofal diogel ac effeithlon.

Nyrsus Ardal (Cymuned)

Nyrsus Ardal (Cymuned)

Gellir cysylltu a’r Nyrsus Ardal saith diwrnod yr wythnos rhwng 9.00 yb a 17.00 yh

Rhif: 01654 705 238 (Peiriant ateb ar gael)

Iechyd Plant

Iechyd Plant

Cynhelir clinigau iechyd plant pob pythefnos dan ofal meddygon ac nyrsus practis.

Mae’r rhain ar gyfer gwiriadau iechyd rheolaidd babanod a phlant, imiwneiddiadau ac am bryderon iechyd plant nad ydynt yn rhai brys.

Archwiliadau Meddygol

Archwiliadau Meddygol

Os oes arnoch angen archwiliad meddygol ar gyfer gyrru (HGV, bws neu dacsi), at ddibenion yswiriant neu weithgareddau hamdden yna gall staff y dderbynfa archebu rhain ar eich cyfer.

Gan nad yw rhain ar gael ar y CIG, codir tâl am y gwasaneth hwn.Cewch wybod y gost gan staff y dderbynfa pan yn trefnu.

Taliadau trwy arian parod neu siec yn unig.

Gofal y Glust

Gofal y Glust

Os ydy’ch clustiau yn llawn o gwyr mae ein clinigwyr wedi’u hyfforddi i ddyfrhau’r clustiau neu ddefnyddio “micro-suction”.

Er mwyn dyfrhau y clustiau defnyddir dwr cynnes i feddalu y cwyr tra bod “micro-suction” yn defnyddio spectrosgop golwg union i sugno’r cwyr yn ddiogel o’r glust. Cewch ddewis y naill driniaeth neu’r llall; bydd eich nyrs neu feddyg yn rhoi cyngor pellach fel bo’r angen.

Atalgenhedlu

Atalgenhedlu

Darperir yma bob dull o atalgenhedlu, gan gynnwys y bilsen, patsys, pigiadau, mewnblaniadau a’r “coil”. Gwnewch apwyntiad gyda meddyg teulu neu Nyrs Uwch Ymarferydd i drafod hyn.

Mae atalcenhedlu brys ar gael a gellir ei ddarparu dros y ffôn lle bo’n briodol.

Pan fyddwn ar gau, gallwch hefyd dderbyn atalgenhedlu brys gan feryllydd neu’r gwasanaeth Tu Allan i Oriau.

Iechyd Bro Ddyfi

Mae Iechyd Bro Ddyfi wedi ymrwymo i ddarparu gofal iechyd gorau posibl i'r gymuned.

© 2021 Dyfi Valley Health

RCGP  NHS Wales