Mae CAMAD wedi lansio gwasanaeth cyfeirio gwasanaeth cludiant cleifion a chymuned newydd.

Bydd yn helpu cleifion sy’n byw yn ardal Bro Ddyfi gyda’u hanghenion teithio sy’n gysylltiedig ag iechyd, gan gynnwys mynediad at Wasanaethau Meddygol Cyffredinol Bro Ddyfi yng Nghanolfan Iechyd Machynlleth, Forge Road, Machynlleth.

Gellir cysylltu’r gwasanaethau drwy ffôn (01654 700071), drwy e-bost (admin@camad.org.uk) neu’n bersonol yn swyddfeydd CAMAD:

Dydd Mawrth: 9.30yb–12:30yp a 1:30yp–3:30yp

Dydd Mercher: 9:30yb–12:30yp a 1.30yp–3.30yp

Dydd Gwener: 9.30yb–1.30yp

Ariannwyd y gwasanaeth peilot hwn am chwe mis o 1 Awst 2019 i 31 Ionawr 2020 gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys.