Gweithdrefn Cwyno

Gweithdrefn Cwyno

Mae’r Ganolfan Iechyd yn croesawu awgrymiadau a chwynion. Hoffem glywed awgrymiadau, barn a sylwadau gan gleifion, teuluoedd a gofalwyr. Dwedwch eich dweud i’n helpu ni i adolygu sut y gallwn ddarparu y gwasanaeth gorau o fewn yr adnoddau sydd ar gael. Mae’r Ganolfan Iechyd yn dilyn Rheoliadau GIG (Pryderon, Cwynion a Threfniadau Gwneud Iawn) 2011. Caiff posteri a thaflenni eu harddangos yn y ganolfan Iechyd.

Nodweddion Allweddol y Broses Gwyno yw:

  • Gellir gwneud cwyn ddim hwyrach na 12 mis o ddyddiad y digwyddiad.
  • Cydnabyddir y gwyn o fewn 2 ddiwrnod gwaith o’u derbyn.
  • Ymateb i’r gwyn i’w hanfon o fewn 30 diwrnod gwaith ar ôl ei dderbyn ac os nad yw hyn yn bosib, hysbysir y person.

Os oes gennych gwyn neu phryder, gallwch naill ai siarad â staff y Practis a/neu  Rheolwr y Practis yn uniongyrchol neu gofynnwch i Fwrdd Iechyd Lleol Powys edrych i mewn i’ch pryder yn hytrach na  dod a’r mater at y Practis.

Gall cleifion hefyd gysylltu â’r Cyngor Iechyd Cymuned am gyngor, cymorth a chefnogaeth: CIC Trefaldwyn Ffôn: 01686 627632

Iechyd Bro Ddyfi

Mae Iechyd Bro Ddyfi wedi ymrwymo i ddarparu gofal iechyd gorau posibl i'r gymuned.

© 2021 Dyfi Valley Health

RCGP  NHS Wales