
Gwneud Apwyntiad
Gwneud Apwyntiad
Gallwch wneud apwyntiad hefo unrhyw un o’r staff clinigol 4-6 wythnos ymlaen llaw. Gallwch wneud hyn trwy alw mewn, dros y ffôn neu drwy ein system apwyntiadau ar-lein. Os nad ydych yn gwybod sut i gael mynediad i’r system ar-lein bydd un o’n staff derbynfa ond yn rhy falch i’ch helpu i gofrestru.
Apwyntiadau Brys
Byddwn yn rhyddhau nifer cyfyngedig o apwyntiadau brys pob bore.Mae rhain ar gyfer pobl sydd ag anghenion meddygol brys, NID ar gyfer ymholiadau iechyd pob-dydd.
Appointment Request Form
Galwadau ffôn
Os nad oes apwyntiad ar gael, ond yr ydych angen cyngor meddygol y diwrnod hwnnw gallwn drefnu i glinigwr eich ffonio.
Ymweliadau Cartref
Mae pob amser yn well gennym eich gweld yn y feddygfa ble mae gennym gyfleusterau llawer gwell ar gyfer eich archwilio a’ch trin. Mae ymweliadau cartref ar gyfer y cleifion hynny na allant ddod i’r feddygfa oherwydd eu salwch neu eu hanabledd.
Os oes angen ymweliad cartref arnoch yna rhaid ffonio’r dderbynfa cyn 10 y bore. Fel arfer bydd clinigwr yn eich ffonio i benderfynu a ydych angen cyngor dros y ffôn, ymweliad gan nyrs neu feddyg neu ymweld a’r ysbyty.
Ymholiadau Cyfeirio
Os nad ydych wedi clywed gan yr ysbyty o fewn 6 wythnos, cysylltwch yn uniongyrchol a’r ysbyty/adran. Os yw hyn yn aflwyddiannus, cysylltwch a ni a mi wnawn ymchwilio ymhellach ac adrodd yn ôl i chi.
Gwarchodwr
Mae croeso i chwi ddod a rhywun gyda chi i unrhyw apwyntiad. Os yw’n well gennych, gallwn gynnig aelod o staff i weithredu fel gwarchodwr/wraig yn ystod eich ymgynghoriad.
Iechyd Bro Ddyfi
Mae Iechyd Bro Ddyfi wedi ymrwymo i ddarparu gofal iechyd gorau posibl i'r gymuned.
© 2021 Dyfi Valley Health