Imiwneiddio Babanod
Yma mi fyddwch gobeithio yn gallu dod o hyd i’r gwybodath yr ydych ei angen ynghlun â imiwneiddio eich babi.
- Pa freichiadau y byddant yn ei cael
- Gwybodaeth ynghlun ar frechlynnau a roddi
- Pwy oedran bydd y freichiadau yn cael ei roi
- Dolenni defnyddiol
Rhwng 6-8 wythnos bydd eich babi angen cael archwiliad llawn gan un o’n clinigwyr. Byddem gan amlaf yn galw chi fewn am hyn pan mae eich babi yn 8 wythnos oed, er mwyn cael hyn wedi’i neud yr un diwrnod a’i freichiadau cyntaf.
Ar ol yr apwyntiad cychwynol hwn, byddwch chi’n cael eich galw i fewn eto pan fydd eich babi ym 12 wythnos oed ac yn 16 wythnos oed am freichiadau ychwanegol.
Ar ol hyn byddwch yn cael eich galw i fewn eto pan fydd eich babi yn 1 oed, ac eto pan fyddan nhw yn 3 mlwydd oed a 4 mis ar gyfer ei breichiadau cyn-ysgol.
Nodwch os nad ydych chi yn gallu dod a’ch plentyn i’r appwyntiad imiwneiddio ac yn bwriadu anfon eich plentyn i fewn efo aelod arall or teulu sydd ddim efo cyfriflodeb rhiant, a fedrwch chi gwbwlhau ac arwyddo y daflen gydsynio yma os gwelch yn dda.
Imiwneiddio yn ystod COVID-19
O ganlyniad ir amgylchiadau presenol gyda COVID-19 (Coronavirus), rydym wrthi’n gofyn mai dim ond 1 person sydd yn dod ach plentyn i gael ei freichiadau. Mae hyn yn golygu, dim partner na brodyr a chwiorydd.
Mae hyn er mwyn sicrhau y gallwn leihau eich amser yn y feddygfa i’r hyn sydd ei angen yn unig.
Unwaith yn y feddygfa, fydd clinigydd yn gwiro eich tymheredd.
Os gwelwch yn dda os yn bosib, dewch â’ch mwgwd a PPE eich hunan.
Imiwneiddio babanod canllaw cyflym i freichlynnau
- 6-1- mae hwn yn eich amddiffyn rhag;
- Difftheria- mae hwn yn haint bacterol hynod heintus sydd yn cael ei lledaenu drwy beswch, tisian a chyswllt agos â rhywun efo difftheria
- Tetanws- mae hwn yn bacteria sydd yn gallu mynd fewn i’r corf trwy glwyfau
- Hib (Haemophilus ffliw math B)- Mae hwn yn bacteria sydd yn gallu achosi sawl cyflwr difrifol e.e. meningitis, sepsis, a cellweiriwr
- Polio- mae hwn yn haint ferisyol sydd yn gallu achosi parlys
- Y Pas (Pertwsis)- mae hwn yn haint bacterol hynod o heintus sydd yn gallu effeithio ar yr ysgyfaint a llwybrau anadlu
- Hepatitis B- mae hwn yn haint yr afu sydd yn cael ei achosi can firws sy’n cael ei ledaenu drwy’r gwaed a hylif corfforol.
- Niwmococol- mae’r frechiad yma yn amddiffyn rhag heintiau sydd yn gallu arwain at Niwmonia, sepsis a meningitis
- Rotafeirws- mae hwn yn amddiffyn rhag firws a all achosi dolur rhydd a chwydu
- Men B- mae hwn yn amddiffyn rhag meningitis a sepsis
- Hib/Men C- mae hwn yn amddiffyn rhag ffliw haemophilus, mae hwn yn bacteria sydd yn gallu achosi heintiau difrifol gwahanol, a meningitis C
- MMR- mae hwn yn amddiffyn rhag y frech goch, clwy’r pennau a rubella
Amserlen Imiwneiddio
Cliciwch ar y dyddiad isod i datgelu mwy o wybodaeth:
8 wythnos oed
Archwiliad cyn imiwneiddio- fydd yr apwyntiad yma yn cael ei wneud gan YNU (Ymarferydd Nyrsio Uwch) yr meddygfa
Yn yr apwyntiad yma fydd yr YNU yn edrych ar llygaid, calon, a cluniau eich babi, ac i fechgyn bydd y ceilliau’n cael eu gwirio (ar gyfer yr archwiliad hwn bydd angen i chi dynnu dillad eich babi)
Bydd yr YNU yn gofyn cwestiynnau i chi ynghlun a iechyd eich babi; bwydo, cwsg, tyfiant a lles cyffredinol
Byddwch wedyn yn gweld Nyrs practis ar gyfer imiwneddio eich babi
Mi fydd yn nyrs yn siarad trwy pob un frechiad, gan rhoi gwybod i chi am y brechlyn a beth i’w ddisgwyl ar ôl y brechlynnau
Yn yr apwyntiad cyntaf, fydd eich babi yn cael 3 brechiad-
- DTaP/IPV/Hib/HepB (6-1)
- MenB
- Rotafeirws
Gwnewch yn siwr eich bod yn dod a pharasetamol (Calpol) gyda chi i’r apwyntiad gan fod y brechiad MenB yn gallu creu gres uchel (am fwy o wybodaeth ynghlun a hyn edrychwch ar y linc isod)
12 wythnos oed
Yn ystod yr apwyntiad yma bydd eich babi yn cael 3 frechiad, 2 y mae wedi’i gael yn barod yn yr apwyntiad cyntaf
- DTaP/IPV/Hib/HeB(6-1)- 2ail ddos
- Rotafeirws- 2ail ddos
- Niwmonia
16 wythnos oed
Yn ystod yr apwyntiad yma bydd eich babi yn cael 2 frechiad, 2 y mae wedi’i gael yn barod yn y ddau apwyntiad cynt
- DTaP/IPV/Hib/HeB(6-1)- 3ydd ddos
- MenB- 2ail ddos
1 blwydd oed
Yn ystod yr apwyntiad yma bydd eich babi yn cael 4 frechiad. Fydd yna 2 pigiad atgyfnerthu a 2 frechlyn Newydd
- MenB-3ydd ddos
- Niwmonia- 2ail ddos
- Hib/MenC
- MMR
3 blwydd oed a 4 mis
Yn ystod yr apwyntiad yma bydd eich plentyn yn cael 2 pigiad atgyfnerthu
- DTaP/IPV(4-1)
- MMR
Gwybodaeth defnyddiol
Rhif cyswllt ymwelydd iechyd- 01654 705235
Dolenni efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi