Pwysigrwydd Sgrinio Serfigol

Mae sgrinio serfigol, neu fel y gelwir yn gyffredinol, prawf taeniad, yn gwirio iechyd gwddf y groth (agoriad y groth o’ch fagina). Nid prawf canser ydyw ond prawf i helpu i atal canser rhag datblygu yn y serfics sydd yng ngwddf y groth. Mae modd atal canser gwddf y groth…

Amcangyfrifodd y British Journal of Cancer (2016) bod sgrinio ar hyn o bryd yn Lloegr yn atal 70% o farwolaethau canser gwddf y groth ar draws pob oedran. Hyn er gwaethaf y ffaith bod y niferoedd o bobl sy’n cael profion gwddf y groth wedi gostwng yn y 10 mlynedd diwethaf!

Felly, pwrpas y blog yma yw ceisio annog pawb sy’n gymwys i gael prawf taeniad i fynd amdano…

Beth yw prawf sgrinio serfigol/gwddf y groth?

Gwyliwch y fideo yma gan Cancer Research UK

Pwy sy’n cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn sgrinio serfigol?

Bydd merched a phobl gyda serfics rhwng  25 oed a 64 oed yn cael eu gwahodd trwy lythyr am brawf sgrinio.

Ceisiwch beidio â gohirio sgrinio serfigol. Mae’n un o’r ffyrdd gorau o amddiffyn eich hun rhag canser gwddf y groth.

Sut mae sgrinio serfigol yn atal canser

Gall sgrinio serfigol wirio am:

  • newidiadau anarferol yn y celloedd ar eich serfics – heb eu trin, gallai hyn droi’n ganser
  • HPV – Mae rhai mathau o HPV yn gallu achosi newidiadau yn y celloedd ar y serfics sy’n gallu troi’n ganser – darllenwch fwy am y Feirws Papiloma Dynol yma (https://www.nhs.uk/conditions/human-papilloma-virus-hpv/)

Pwy sydd mewn perygl?

Os oes gennych serfics ac wedi cael unrhyw fath o gyswllt rhywiol, gyda dyn neu ddynes, gallech gael canser gwddf  y groth. Hyd yn oed:

  • os ydych chi wedi cael y brechlyn HPV – nid yw’n eich diogelu rhag pob math o HPV, felly rydych chi’n dal mewn perygl o gael canser gwddf y groth
  • mai dim ond 1 partner rhywiol fu gennych – gallwch gael HPV y tro cyntaf rydych chi’n cael rhyw
  • rydych chi hefo yr un partner, neu heb gael rhyw, ers amser maith – gallwch gael HPV am amser hir heb yn wybod i chi
  • rydych chi’n lesbiaidd neu’n ddeurywiol – rydych mewn perygl os ydych chi wedi cael unrhyw gyswllt rhywiol
  • rydych chi’n ddyn trawsrywiol gyda gwddf y groth – darllenwch a ddylai dynion traws gael sgrinio serfigol (https://www.nhs.uk/common-health-questions/sexual-health/should-trans-men-have-cervical-screening-tests/)
  • os ydych wedi cael hysterectomi rhannol na chafodd wared o’r serfics i gyd

Ond beth os ydych dal yn wyryf? Ewch i: https://www.nhs.uk/common-health-questions/womens-health/do-i-need-a-cervical-screening-test-if-i-am-a-virgin/

Pryd caf fy ngwahodd?
Cervical Screening

Dylai pob merch a phobl gyda serfics rhwng  25 oed a 64 oed  fynd am brawf sgrinio yn rheolaidd. Byddwch yn derbyn llythyr trwy’r post yn eich gwahodd i drefnu apwyntiad.

  • O dan  25 – hyd at 6 mis cyn i chi fod yn 25
  • 25 i 49 – bob 3 blynedd
  • 50 i 64 – bob 5 mlynedd
  • 65 a hŷn  – dim ond os oedd 1 o’ch 3 prawf blaenorol yn anarferol

Os ydych yn derbyn llythyr yn eich gwahodd i gael prawf taeniad, trefnwch apwyntiad gyda ni cyn gynted â phosibl.

Os na fuoch am eich  apwyntiad sgrinio diwethaf,  dos dim angen aros am lythyr arall – ffoniwch ni i drefnu apwyntiad.

Ffoniwch ni ar 01654 702 224.

Mae’n bwysig dod i’n gweld os  ydych yn poeni am ganser gwddf y groth neud os oes gennych y symptomau canlynol:

  • gwaedu rhwng eich mislifoedd, yn ystod rhyw neu ar ôl rhyw, neu waedu ar ôl y menopos
  • rhedlif anarferol o’r wain

Eich dewis chi yw mynd am sgrinio serfigol neu peidio

Eich dewis chi yw os ydych chi eisiau mynd am sgrinio serfigol. Ond sgrinio serfigol yw un o’r ffyrdd gorau i’ch amddiffyn rhag canser gwddf y groth.

Gallwch ddewis peidio – rhowch wybod i ni os hoffech gael eich tynnu oddi ar y rhestr sgrinio serfigol… gallwch chi bob amser gael eich ychwanegu yn ôl.

Ceisiwch beidio â gohirio sgrinio serfigol. Mae’n un o’r ffyrdd gorau o amddiffyn eich hun rhag canser gwddf y groth.

Am fwy o wybodaeth am sgrinio serfigol: