Sut i Ddechrau Ymarfer Corff a Chadw’n Heini

Rydym ni i gyd yn gwybod bod bwyta’n iach ac ymarfer y corff yn rheolaidd o fantais fawr i’n hiechyd a’n lles cyffredinol. Ond, pe bai mor syml a hynny,  byddem ni i gyd yn ei wneud yn gyson.

Ond tydi cadw’n iach ac ymarfer y corff ddim yn rhywbeth y bydd y mwyafrif ohonom yn ei wneud yn rheolaidd. I’r mwyafrif  ohonom, mae cadw’n heini ac ymarfer yn rheolaidd yn sgil sydd angen ymdrech a disgyblaeth er mwyn gwella; yn arbennig felly ar gyfer rhai hynny sydd ychydig dros bwysau. Mae bod yn rhy drwm yn ei gwneud hi’n anoddach fyth i gychwyn arni, gan y gall ymarfer y corff fod yn anoddach. Ond, fel y dywed yr hen ddywediad, “Deuparth gwaith yw ei ddechrau.”

Yn y blog hwn, gobeithiwn eich helpu i ddechrau ymarfer a chadw’n heini … nid o reidrwydd er mwyn rhedeg marathonau ( er byddai hynny’n wych), ond i’ch helpu i gymryd y camau cyntaf.

Carwch Eich Hun –  Oherwydd Eich Hun

Rhaid dechrau ymarfer am y rhesymau cywir – canolbwyntiwch  ar fuddion hirdymor ymarfer corff a defnyddio nodau tymor byr (meintiau dillad, maint eich canol, adlewyrchiadau  ac ati) fel cymhelliant ysgogol cyflym yn unig. Byddwch y gorau y gallwch CHI fod. Os ydych chi’n gwneud’ch gorau, dyna’r cyfan y gallwch ei wneud!

Mae Ymarfer yn Sgil – Cofiwch Hynny

Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn meistroli sgil newydd ar unwaith. Er enghraifft, mae dysgu’r piano, neu siarad iaith newydd yn cymryd llawer iawn o amser – ac d’yw dysgu byw’n iach a chadw’n heini ddim gwahanol. Y syniad yw gwneud newidiadau bach a chadarnhaol y gallwch chi eu datblygu a’u gwneud drwy weddill eich bywyd.

Nid yw cynlluniau colli pwysau tymor byr, cyfnodau gwyllt o ymarfer corff a dietau mympwyol yn gweithio. Do, fe’u dyluniwyd i chi golli pwysau, ond maent hefyd wedi’u cynllunio i sicrhau eich bod yn rhoi’r pwysau yn ôl ar …

Dewisiwch Rhywbeth Rydych yn ei Hoffi – Dyna yw’r Dechrau

Hanner y frwydr yw dod o hyd i’r hyn yr ydych yn hoffi ei wneud. Yr hanner arall yn rhoi’r cynllun ar waith. Nid oes raid i chi ddechrau rhedeg, mynychu dosbarthiadau troelli, dosbarthiadau HIIT, ac ati; efallai bydd rhywbeth ychydig yn wahanol yn mynd a’ch bryd: Zumba, cerdded gyda ffrindiau, erobeg- dŵr, ac ati.

Beth bynnag y bo, dewisiwch yr ymarfer sydd yn eich bodloni a’ch gwobrwyo  yn feddyliol, emosiynol a chorfforol. Darganfyddwch yr hyn rydych CHI YN EI GARU!

Mae eich canolfan hamdden leol a Facebook yn aml yn lleoedd da i ddechrau chwilio am ddosbarthiadau priodol a phobl o’r un meddylfryd a chwi.

Canolbwyntiwch ar y Nawr – Nid y Diwedd

Wrth gwrs mae gosod nodau’n bwysig, ond, unwaith y byddwch chi wedi dod o hyd i’r hyn rydych chi’n ei garu – boed hynny yn ddosbarth karate,  chwarae ar y Nintendo Wii Fit neu gerdded y traeth; dechreuwch yn araf a chanolbwyntio ar yr hyn y gallwch chi ei wneud mewn gwirionedd. Does dim angen mynd fel cath i gythrel ar y cychwyn neu byddwch yn llosgi allan neu anafu’ch hun.

Ffeindiwch Ffrind! 

Cewch bob amser mwy o lwyddiant os byddwch chi’n dechrau dysgu’r sgil ymarfer corff/ cadw’n heini newydd hwn gyda rhywun arall. Bydd yn llawer haws os oes gennych gefnogaeth gorfforol ac emosiynol ffrindiau ac anwyliaid.

Dewch o hyd i gyfaill gwaith neu gofynnwch i’ch partner i ymgymryd yr her newydd hefo chwi. Rydych chi’n fwy tebygol o fod yn llwyddiannus os yw’r ddau/ddwy ohonoch chi’n bwyta’r un peth ac yn ymarfer yr un peth.

I Grynhoi…

Sgil yw ymarfer corff/cadw’n heini ac fel pob sgil arall rhaid dal ati, dros amser i’w wella. Unwaith y byddwch chi’n sylweddoli hynny, ac yn dod o hyd i weithgaredd rydych chi’n ei garu, yna byddwch wedyn yn gwneud y sgil honno’n ddewis bywyd fydd o fudd i chi am y tymor hir, nid dim ond am gyfnod byr.

Nid yw cychwyn ymarfer/cadw’n heini yn hawdd, yn enwedig os ydych chi dros bwysau. Ond, peidiwch a digalonni – araf bach mae dal iâr! Bydd cymryd camau bach a derbyn cefnogaeth emosiynol anwyliaid, teulu neu gyfaill ymarfer corff yn eich helpu i gychwyn ar daith all newid eich bywyd.

Linciau Hwylus

Rydym yma i’ch helpu. Cysylltwch a ni os oes gennych unrhyw gwestiwn neu rydych angen cyngor am eich iechyd – gadewch i ni eich helpu chi.