Sut I Gadw’n Iach Trwy’r Gaeaf

Mae’r clociau wedi mynd nôl. Mae’n tywyllu’n gynt pob dydd,  y dail yn syrthio o’r coed a  stormydd y gaeaf eisoes wedi dechrau eu rhuo tymhorol. Mae tymor y ffliw yn dechrau dangos ei ddannedd… Ond er gwaethaf y rhain i gyd, does dim angen i’r gaeaf amharu’n ormodol are eich hiechyd!

Dyma ichi rhai awgrymiadau defnyddiol i’ch helpu i gadw’n iach trwy fisoedd y gaeaf …

1. Bwyta’n Iach

Wyddoch chi? Yn ôl ymchwil a  adroddwyd gan Brifysgol John Hawkins, mae pobl yn tueddu i roi pump i saith pwys ar, ar gyfartaledd yn ystod misoedd y gaeaf!

Torrwch Lawr ar y Carbs:

Mae’r tymor oer yn cynyddu ein chwant am fwy o fwydydd cysur. Pam? Ar ôl i chi fwyta’r danteithion hyn, mae eich lefelau serotonin yn codi, gan wneud i’r ymennydd feddwl eich bod chi’n hapusach. Ac wrth i’r diwrnod fynd ymlaen, mae eich chwant am garbohydrad yn tyfu yn gryfach.

Ceisiwch fwyta brecwast llawn protein i gadw’ch lefelau egni’n uchel trwy gydol y dydd. Os byddwch  yn dal i flysu am  felysion neu garbohydrad yn ystod y prynhawn sicrhewch fod gennych fyrbrydau braster isel ac iach wrth law. Darganfod ffordd i gynyddu eich lefelau serotonin heb fwyd yw’r ffordd orau!

Ffrwythau a Llysiau:

Fel y soniwyd  eisioes, mae weithiau’n demtasiwn i lenwi’r cwpwrdd gyda bwydydd sy’n gwneud i chwi deimlo’n dda – ‘comfort food’. Ond, mae’n bwysig iawn eich bod chi’n dal i fwyta eich  ‘pump pob dydd’. Defnyddiwch llysiau’r gaeaf fel moron, panas, rwden a meipen i greu prydau gaeaf cysurus a chynnes i’r teulu cyfan. Gallwch ddod o hyd i ryseitiau ym mhobman, gweler y cawl llysiau cysurus a chynnes yma:

Madarch

Dengys astudiaethau fod madarch hefyd yn ffrind da trwy fisoedd y gaeaf. Mae gan amrywiaethau megis ‘botwm gwyn’ (white button)neu shitake fuddion iechyd sy’n rhoi hwb i’ch imiwnedd.  Mae hyn oherwydd fod gan fadarch wrthfiotigau sy’n digwydd yn naturiol. Mae hyn yn rhoi priodweddau meddyginiaethol iddynt, sy’n ein helpu i ymladd yn erbyn  nifer o fathau o salwch.

Ffeibr

Mae ffeibr hydoddol a geir mewn afalau, ceirch a chnau yn ffordd bwysig i leihau llid a hybu swyddogaeth y system imiwnedd. Mae ffeibr hydoddi hefyd yn helpu i leihau lefelau colesterol yn y corff ac yn  gymorth i golli pwysau a’ch amddiffyn rhag diabetes. Mae hwn yn awgrym iechyd pwysig ofnadwy ar gyfer y gaeaf i bobl hŷn sydd angen diet ffeibr uchel i ddiogelu eu systemau treulio.

Yfwch mwy o laeth/llefrith

Mae’n ffaith – rydych chi’n fwy tebygol o gael annwyd yn y gaeaf,  felly gwnewch yn siŵr fod eich system imiwnedd mewn cyflwr da. Mae llaeth a chynnyrch llaeth fel caws, iogwrt a fromage frais yn ffynonellau gwych o:

  • Protein
  • Fitaminau A a B12
  • Calsiwm

Asidau Brasterog Omega 3

Fel arfer i’w cael mewn pysgod, cnau a hadau. Mae asidau brasterog Omega 3 yn wych ar gyfer lleihau poen ac anystwythder gan eu bod yn naturiol wrthlidiol. Mae astudiaethau hefyd wedi dangos bod asidau brasterog omega 3 yn helpu i leihau y lefelau iselder, y gall pobl yn aml eu teimlo yn ystod dyddiau byr y gaeaf.

1. Rhowch gynnig ar Weithgareddau Newydd

Peidiwch â defnyddio misoedd oer y gaeaf fel esgus i aros mewn. Yn hytrach, ewch allan gyda’r teulu cyfan i roi cynnig ar weithgaredd newydd – sglefrio iâ, neu i gerdded ar y traeth neu trwy’r parc. Gweler ein blog ar Ymarfer: Sut i Dechrau Ymarfer Corff a Chadw’n Heini

Mae ymarfer corff rheolaidd yn helpu i reoli’ch pwysau, rhoi hwb i’ch system imiwnedd, ac yn ffordd dda o leihau y tensiwn all adeiladu os yw’r teulu wedi cau yn y tŷ am amser hir.

2. Canllawiau a Llwybrau Cerdded

Achos nifer fawr o ymweliadau i’r meddyg neu i’r Adran Achosion Brys yw llithro neu godwm syml.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio canllawiau ar risiau   a rhowch halen ar lwybr ac unrhyw grisiau sy’n  arwain at eich cartref. Os oes angen, gofynnwch i ffrind / cymydog neu’r cyngor eich cynorthwyo.

Graeanwch gyda halen mor aml ag sydd ei angen i’ch cadw chi a’ch teulu yn ddiogel rhag llithro a chwympo.

3. Yfwch De Llysieuol a Chymryd  Fitaminau Atodol 

Mae yna lawer math o de llysieuol a all eich helpu i aros yn iach.

Gall te llysieuol fel lemon a chamomile leddfu iselder a phryder trwy leddfu nerfau ac ymlacio’ch corff. Gallant hefyd eich helpu i gysgu’n well.

Mae rhai te llysieuol fel te gwyrdd a Rooibos yn wych fel gwrthocsidyddion. I gael y budd mwyaf,  chwiliwch am de organig wedi wneud gyda chynhwysion o’r ansawdd gorau.

4. Cwsg Rheolaidd

Mae llawer o bobl yn teimlo’n flinedig ac yn swrth yn ystod y gaeaf. Digwydd hyn oherwydd diffyg golau’r haul, sy’n amharu ar ein cylchrediad cysgu a deffro.

Rhowch gynnig ar rhain:

  • mynd allan i’r awyr agored yn ystod golau dydd naturiol cymaint â phosib
  • cael noson dda o gwsg – ewch i’r gwely a deffro ar yr un pryd bob dydd
  • cewch wared o straen trwy ymarfer corff neu fyfyrdod –  profwyd gall straen eich gwneud yn  flinedig.

Gobeithio fod yr awgrymiadau yma ar sut i gadw’n iach trwy’r gaeaf wedi bod o gymorth i chwi. Unwaith eto,os oes angen unrhyw help neu wybodaeth arnoch chi -cysylltwch â ni