Straen. Gair cyffredin ond rhywbeth sy’n codi a sy’n achosi trafferthion i ni yn fwyfwy y dyddiau hyn. Adwaith arferol gan y corff pan fydd newidiadau’n digwydd yw straen. Gall ymateb i’r newidiadau hyn fod yn rhai corfforol, meddyliol neu emosiynol.

Canfu arolwg gan y Sefydliad Iechyd Meddwl (Mai 2018) fod bron i dri chwarter o oedolion (74%) deimlo cymaint o dan straen a’u bod wedi eu gorlethu neu fethu ymdopi, ar ryw adeg dros y flwyddyn ddiwethaf

Bydd y blog yma yn ceisio eich helpu i ddelio gyda straen trwy ofyn:

  • Beth yw straen?
  • Sut mae adnabod arwyddion o straen?
  • Sut ydw i yn osgoi bod o dan straen?

Beth yw straen ?

Stress

Ar y lefel fwyaf sylfaenol, straen yw ymateb ein corff i bwysau sefyllfa neu ddigwyddiad bywyd. Gall yr hyn sy’n achosi a chyfrannu at straen amrywio’n fawr o berson i berson, yn ôl ein hamgylchiadau cymdeithasol ac economaidd, yr amgylchedd rydyn ni’n byw ynddo a’n cyfansoddiad genetig.

Rhai nodweddion cyffredin o pethau a all wneud inni deimlo dan straen yw profiadau newydd neu annisgwyl, rhywbeth sy’n bygwth eich teimlad o bwy ydych, neu ymdeimlad nad oes gennych lawer o reolaeth dros sefyllfa.

Mae’r corff dynol wedi’i gynllunio i brofi straen ac ymateb iddo. Gall straen fod yn bositif, trwy ein cadw’n effro, yn llawn cymhelliant, ac yn barod i osgoi perygl. Daw straen yn negyddol pan fydd person yn wynebu heriau parhaus heb ryddhad nac ymlacio rhwng yr hyn sy’n achosi’r straen.

Ymateb i fygythiad o fewn sefyllfa yw straen, tra fod gorbryderu yn adwaith i’r straen hwnnw.

Beth yw Arwyddion Straen?

Rydym i gyd yn delio gyda straen mewn ffyrdd gwahanol, ond mae straen yn effeithio ar bob un ohonom yn emosiynol ac yn gorfforol. Dyma ychydig o arwyddion:

Corfforol Meddyliol Ymddygiad
Teimlo’n flinedigBod yn flin, yn
ymosodol,
diamynedd
Pryderu yn gyson
Cur pen/Pen tostBod yn orbryderus, gofidus neu ofnusMethu canolbwyntio
Poenau yn y frestYmdeimlad o
arswyd
Bwyta gormod neu ddiffyg archwaeth
Pwysedd gwaed
uchel
Teimlo’n unig neu’n ynysigTeimlo’n aflonydd –
methu eistedd yn
llonydd
Anhawster cysguWedi’ch gorlwythoCrio yn aml
Llygaid yn ddolurus / golwg yn aneglurMethu switsio i
ffwrdd
Byr eich tymer
Teimlo’n sâl neu
phendro
 Cnoi eich ewinedd/pigo’r croen

Weithiau gall rhai pobl sy’n profi straen difrifol deimlo fel cyflawni hunanladdiad. Canfu’r Sefydliad Iechyd Meddwl (Mai 2018) i 32% o oedolion ddweud iddynt  gael teimladau hunanladdiad o ganlyniad i straen.

Ond mae yna ffyrdd i’ch helpu i ddelio ag ef!

Sut mae Osgoi Straen?

Y peth cyntaf i nodi yw na ddylech geisio ymdopi trwy yfed alcohol neu ysmygu. Ni fydd rhain o fudd o gwbl.

Isod ceir ychydig o bethau y gallwch eu gwneud i’ch helpu i osgoi straen:

How to avoid stress

1. Cadw’n Heini

Ni fydd ymarfer corff yn gwneud i’ch straen ddiflannu, ond bydd yn lleihau rhywfaint ar y dwyster emosiynol rydych chi’n ei deimlo, gan glirio’ch meddyliau a chaniatau i chi ddelio â’ch problemau yn fwy pwyllog. Sut mae cadw’n heini yn helpu’ch lles: (https://www.nhs.uk/conditions/stress-anxiety-depression/improve-mental-wellbeing/).

2. Cymryd Rheolaeth

Mae ateb i bob problem. Yr ymdeimlad hwnnw o golli rheolaeth yw un o brif achosion straen a diffyg lles.

Mae’r weithred o gymryd rheolaeth yn un grymusol, ac mae’n rhan hanfodol o ddod o hyd i ateb sy’n eich bodloni chi fel unigolyn a neb arall. Awgrymiadau ar reoli amser:  (https://www.nhs.uk/conditions/stress-anxiety-depression/time-management-tips/)

3. Siarad Amdano

Gall siarad â rhywun am sut rydych yn teimlo fod yn ddefnyddiol. Gall siarad weithio naill ai trwy dynnu eich sylw oddi wrth eich meddyliau ingol neu ryddhau peth o’r tensiwn trwy drafod. A cofiwch, os oes angen, rydyn ni bob amser yma i’ch helpu chi (http://www.dyfivalleyhealth.org/contact-us/)

4. Cadw Dyddiadur Straen

Mae cadw dyddiadur straen am ychydig wythnosau yn offeryn rheoli straen effeithiol gan y bydd yn eich helpu i ddod yn fwy ymwybodol o’r sefyllfaoedd sy’n eich rhoi dan straen.

Nodwch ddyddiad, amser a lle pob cyfnod rydych yn teimlo dan straen a nodwch beth roeddech chi’n ei wneud, gyda phwy oeddech chi a sut roeddech chi’n teimlo’n gorfforol ac yn emosiynol. Rhowch sgôr straen i bob cyfnod o straen (ar, dyweder, raddfa o 1-10) a defnyddiwch y dyddiadur i ddod i ddeall beth sy’n sbarduno’ch straen a pha mor effeithiol ydych chi mewn sefyllfaoedd sy’n achosi straen. Bydd hyn yn eich galluogi i osgoi sefyllfaoedd sy’n achosi straen a datblygu gwell mecanweithiau ymdopi.

5. Helpu Eraill

Mae tystiolaeth yn profi bod pobl sy’n helpu eraill, trwy weithgareddau fel gwirfoddoli neu waith cymunedol, yn dod yn fwy gwydn.

Os nad oes gennych amser i wirfoddoli, ceisiwch wneud ffafr i rywun bob dydd. Gall fod yn rhywbeth mor bitw â helpu rhywun i groesi’r ffordd neu wneud paned i gydweithwyr.

6. Ceisio Cysgu’n Well

Gall diffyg cwsg achosi straen sylweddol. Yn anffodus, mae straen ei hun, hefyd yn  achos o ddiffyg cwsg wrth i ni barhau i hel meddyliau, gan ein hatal rhag ymlacio digon i syrthio i gysgu. Edrychwch ar y fideo hon:

Dolenni Defnyddiol