Sut I Osgoi Unigrwydd

Rydym yn ysgrifennu’r blog yma ar drothwy’r Nadolig –  tymor y dathlu! Bydd llawer o bartïon  a rydym yn bwriadu treulio llawer o amser gyda ffrindiau a theulu dros dymor yr ŵyl. Fodd bynnag, yn ôl y Groes Goch Brydeinig a’r Co-op (2016) mae dros 9 miliwn o bobl yn y DU yn dweud eu bod unai yn unig gydol yr amser neu’n aml yn teimlo’n unig.

Mae pobl hŷn yn arbennig o agored i unigrwydd ac ynysiad cymdeithasol – a gall gael effaith ddifrifol ar iechyd. Ond mae ffyrdd o oresgyn unigrwydd, hyd yn oed os ydych chi’n byw ar eich pen eich hun ac yn ei chael hi’n anodd mynd allan.

Yn y blog hwn, byddwn yn ceisio rhoi awgrymiadau ar sut i osgoi unigrwydd, a sut y gallech chi helpu pobl sy’n fwy tebygol o fod yn unig.

Sut i Osgoi Bod yn Unig

Er fod unigrwydd yn deimlad naturiol, nid yw yn un y mae mwyafrif ohonom yn ddymuno ei brofi. P’un a ydych chi’n unig o ganlyniad i golli annwylyd neu hiraethu am rywle, neu os ydych chi’n paratoi i dreulio amser oddi wrth eich ffrindiau a’ch teulu, mae yna lawer o ffyrdd i osgoi unigrwydd.

Dyma rai awgrymiadau i’ch helpu:

1. Rhoi Trefn ar Eich Teimladau Write a journal - it will help identify what makes you lonely

Mae’n bwysig penderfynu beth yn union  sydd yn gwneud i chi deimlo’n unig. Ydych chi’n hiraethu am rhywun penodol, neu le arbennig? Gall penderfynu pam eich bod yn unig gynnnig ateb sydyn i’ch problem – ond ni all pawb ddweud o ble mae eu teimladau o unigrwydd yn tarddu.

Ysgrifennu ddyddiadur a nodwch ynddo eich holl deimladau – bydd yn eich helpu i ddeall pam eich bod chi’n unig.

2. Dechreuwch Brosiect neu Diddordeb newydd

Gall dechrau prosiect neu weithgaredd newydd fod yn ffordd wych o dynnu’ch sylw oddi wrth eich teimladau o unigrwydd presennol, ac yn help i roi pwrpas i’ch bywyd pan yr unig beth hoffech ei wneud yw tynnu’r duvet dros eich ben. Bydd y prosiectau/gweithgareddau yn amrywio o berson i berson.

Gosodwch nodau dyddiol  neu wythnosol i’ch hun fel bod gennych rywbeth i ffocysu eich gwaith caled arno. Ni fydd amser gennych i deimlo’n unig  gyda’r holl ymroddiad y byddwch chi’n ei roi i’ch prosiect.

SYNIADAU:

  • Dysgu iaith newydd
  • Dysgu sut i chwarae offeryn cerdd
  • Astudio sgil newydd (dysgu sut i ddefnyddio cyfrifiadur, er enghraifft)

3. Gwahodd Ffrindiau i De

Os ydych chi’n teimlo’n isel ac yn unig, mae’n dueddiad i chi feddwl nad oes neb eisiau ymweld â chi. Ond yn aml bydd ffrindiau, teulu a chymdogion yn gwerthfawrogi derbyn gwahoddiad i ddod i dreulio amser gyda chi.

Os byddai’n well gennych i rywun arall ei gynnal, mae  Contact the Elderly yn elusen sy’n cynnal partïon te rheolaidd, rhad ac am ddim ar brynhawn Sul ar gyfer pobl dros 75 oed sy’n byw ar eu pen eu hunain. Cewch eich casglu o’ch cartref a’ch gyrru i gartref gwesteiwr gwirfoddol am y prynhawn.

4. Cadw mewn cysylltiad Dros y Ffôn

Mae cael sgwrs dros y ffôn gyda ffrind neu berthynas bron cystal a bod yn eu cwmni.

Neu  fe allwch alw The Silver Line,  ar 0800 4 70 80 90 -llinell gymorth ar gyfer pobl hyn sefydlwyd gan Esther Rantzen.

5. Dewch yn Rhan O’ch Cymuned

Bydd  rhain yn amrywio yn dibynnu ar yr hyn sydd ar gael yn eich cymdeithas, ond mae siawns da y medrwch ymuno â grŵp canu neu gerdded, clybiau llyfrau, ‘bridge’, bingo, nosweithiau cwis a grwpiau ffydd.

Hyn i gyd heb sôn am ganghennau lleol sefydliadau rhanbarthol a chenedlaethol sy’n cynnal digwyddiadau cymdeithasol, megis Sefydliad y Merched, Rotari, Contact the Elderly ac eraill.

Bydd PAVO, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys, yn gallu’ch helpu chi. Eu rhif ffôn: 01686 626 220.

6. Ewch Allan i’r Awyr Iach

Mae’r awyr agored wedi bod yn fodd gwych o iacháu miliynau o bobl dros y blynyddoedd. Ac er i chi feddwl ei fod yn wrth-reddfol ceisio datrys eich unigrwydd trwy fynd allan ar eich pen eich hun, bydd yr amser a dreuliwch gyda natur yn debygol o wella’ch cyflwr emosiynol a gwahardd y teimladau o unigrwydd.

Peidiwch ag aros i bobl ddod atoch chi – teithiwch chi i ymweld â nhw. Mae’r gwasanaethau bws lleol yn rhad ac am ddim i’r rhai sydd wedi ymddeol! I drafeilio ymhellach gall teithiau trên a bysus fod yn rhad hefyd, yn enwedig os byddwch chi’n archebu ymlaen llaw ar-lein a defnyddio Tocyn Teithio Pobl Hŷn.

Sut i Helpu Rhai Sydd yn Unig

Mae 1.2 miliwn o bobl hŷn yn dioddef o unigrwydd parhaus yn y DU (Age UK 2016) gyda hanner miliwn o bobl hŷn yn mynd o leiaf bum neu chwe diwrnod yr wythnos heb weld na siarad ag unrhyw un o gwbl.

Mae yna lawer ffordd y gallwch wneud eich rhan i helpu pobl hŷn unig neu ynysig yn eich cymuned. Bydd yn llesad i iechyd y person rydych chi’n ei helpu a byddwch chithau hefyd yn elwa. Gweler Blog GIG sut y gall helpu eraill fod yn fuddiol iawn .

Dyma ychydig o bethau y gallwch eu gwneud i helpu’r rhai sydd mewn angen:

Mae’n bwysig cofio bod unigrwydd yn gallu – ac yn,  effeithio ar unrhyw un, o unrhyw oedran.

1. Dechrau Sgwrsio

Nid yw bob amser yn hawdd gwybod pwy neu sut i helpu. Ffordd dda i ddechrau yw stopio a siarad â chymydog oedrannus pan fyddwch chi’n eu cwrdd ar y stryd.

2. Cynnig Cymorth Ymarferol

Ydych chi’n gwybod am berson hŷn sy’n byw ar ei pen ei hun, sy’n anaml yn gadael y tŷ, sydd wedi dioddef profedigaeth yn ddiweddar, sydd mewn iechyd gwael, yn anabl, sydd ddim yn gweld neu glywed yn dda, neu yn ymddangos nad oes  ganddynt deulu yn byw yn agos? 

Gofynnwch os oes angen unrhyw help arnynt gyda tasgau megis siopa, postio llythyrau, nôl presgripsiynau a meddyginiaethau, neu gerdded cŵn.

Cynigiwch fynd gyda hwy neu roi lifft iddynt i weithgareddau neu apwyntiadau meddygol ac ysbytai, y llyfrgell, siop trin gwallt neu wasanaethau ffydd.

3. Rhannwch eich Amser

Gwirfoddolwch  i fudiadau sy’n cefnogi pobl hŷn. Mae’r rhain yn aml yn cynnig cynlluniau “cyfeillio” ar gyfer pobl oedrannus ynysig, ac maent yn dibynnu ar wirfoddolwyr ar gyfer cyswllt un-i-un fel “ffrind” ffôn, ymwelydd neu yrrwr, neu gynnal digwyddiadau cymdeithasol i grwpiau.

4. Rhannwch Bryd Bwyd

Mae pobl hŷn yn aml angen help llaw i goginio i’w hunain, felly beth am fynd draw a phlât ychwanegol o fwyd cartref poeth, neu pryd wedi’i rewi y gallant gynhesu neu roi yn y ficro-don?

Yn ogystal â bod yn ymarferol, mae’n ffordd braf o rannu’ch amser gyda chymydog.