Sut i roi’r gorau i yfed alcohol

Mae yna lawer o resymau pam y byddech am roi’r gorau i yfed alcohol. Efallai eich bod yn chwilio am ffordd o fyw iachach. Efallai eich bod yn stopio oherwydd cyflwr meddygol, neu oherwydd rhesymau crefyddol. Os ydych chi’n ystyried cael gwared o alcohol o’ch bywyd, dylech wybod nad chi yw’r unig un. Yn ôl Drink Aware, roedd 43% o oedolion  Prydain sy’n dweud eu bod yn ymatal rhag alcohol wedi yfed alcohol yn y gorffennol.

Mae’r blog hwn yma i’ch helpu chi i roi’r gorau i yfed  trwy gynnig nifer o awgrymiadau defnyddiol i chi eu dilyn.

Siaradwch â Rhywun

Os ydych chi’n meddwl bod gennych broblem yfed ac yn profi unrhyw un o’r symptomau sy’n gysylltiedig a dibyniaeth ar alcohol, dylech wneud apwyntiad i siarad ag un o’n meddygon neu weithiwyr meddygol eraill cyn gynted â phosibl. Mae yna hefyd nifer o wasanaethau cymorth ar alcohol cenedlaethol y gallwch fynd atynt am gyngor.

Cydnabod Bod Gennych Broblem

Nid yw’r rhan fwyaf o bobl sydd â phroblemau alcohol yn penderfynu gwneud newid mawr na thrawsnewid eu harferion yfed dros nos. Fel arfer mae adferiad neu wellhad yn broses tipyn fwy graddol. Ar y cychwyn, mae gwadu fod gennych broblem yn medru bod yn rhwystr enfawr a hyd yn oed wedi i chi gyfaddef bod gennych broblem yfed, mae gwneud esgusodion a llusgo’ch traed yn medru bod yn haws. Os nad ydych yn siŵr a ydych chi’n barod i newid neu os ydych chi’n cael trafferth gyda’r penderfyniad, gall fod o gymorth i feddwl am gostau a buddion  pob dewis.

GALL YR OFFER ‘DRINK AWARE’ YMA EICH HELPU

Gwnewch Eich Bwriad Yn Glir

Dywedwch wrth eich teulu a’ch ffrindiau eich bod yn ceisio rhoi’r gorau i yfed alcohol ac eglurwch pam. Fel hyn, gallwch rannu eich llwyddiannau gyda nhw, a byddant yn deall pam eich bod wedi dechrau gwrthod diodydd neu fynd i’r dafarn. Yn aml, mae atgoffa’ch hun a’r bobl sy’n agos atoch chi pam eich bod am roi’r gorau i yfed yn gallu eich helpu i gadw at eich  gair, a gall hyd yn oed annog rhywun arall i roi’r gorau iddi neu dorri i lawr gyda chi.

Osgowch Demtasiwn Give Up Alcohol

Ar y cychwyn, mae’n syniad da osgoi sefyllfaoedd lle gallech gael eich temtio i yfed. Gallai hyn olygu peidio mynd i’r cwis dafarn wythnosol am gyfnod, neu os ydych chi’n tueddu i yfed wrth fwyta allan, ceisiwch fynd i fwytai nad ydynt yn gwerthu alcohol neu, gwirfoddolwch i yrru. Yn yr un modd, ceisiwch nodi’r amseroedd pan fyddech fel arfer yn yfed a gwnewch rhywbeth arall yn ei le.

Felly, os byddwch fel arfer yn mynd i’r dafarn ar ôl gwaith ar nos Wener, gallech drefnu i gwrdd â ffrindiau i wneud rhywbeth arall (mynd am dro neu fynd i’r sinema), neu os ydych chi’n rhoi’r gorau i alcohol er mwyn bod yn fwy iach, pam na wnewch chi lenwi’r bwlch trwy fynychu dosbarth ymarfer corff wythnosol neu daith i’r pwll nofio i’ch helpu i ymlacio?

Rhowch y gorau iddi yn raddol

Nid oes rhaid i’r torri i lawr fod yn gymhleth. Os ydych chi’n yfed bob nos, dechreuwch drwy ddynodi ychydig ddyddiau yr wythnos fel diwrnodau di-alcohol. Gall hyn yn fuan ddod yn arferiad, yr her bersonol yn helpu i gael gwared ar y demtasiwn ac efallai eich annog i ychwanegu mwy o ddyddiau di-alcohol.

Yr arweiniad swyddogol sawl uned alcohol sy’n ddiogel i’w yfed yw na ddylai merched na dynion yfed mwy na 14 uned yr wythnos yn rheolaidd ac i chi beidio ‘arbed ‘eich unedau ond eu lledaenu’n gyfartal dros yr wythnos.

Ceisiwch Gymorth

P’un a ydych chi’n dewis mynd i’r afael â’ch dibyniaeth ar alcohol trwy fynd i ‘rehab’, cael therapi, neu gymryd ymagwedd triniaeth hunan gyfeiriedig, mae cael cefnogaeth yn hanfodol. Peidiwch â cheisio ymdopi ar eich pen eich hun. Mae gwella o fod yn gaeth i neu gam-drin alcohol  yn llawer haws pan fydd gennych o’ch cwmpas, bobl y gallwch chi ddibynnu arnynt am anogaeth, cysur ac arweiniad.

Gall cefnogaeth ddod gan aelodau’r teulu, ffrindiau, cwnselwyr, alcoholigion eraill sy’n gwella, a phobl o’ch cymuned ffydd.

Cofiwch…rydym ni yma i’ch helpu hefyd! Cysylltwch â

Dolenni Defnyddiol: