Sut I Roi’r Gorau I Ysmygu

Ionawr. Mis yn llawn Addewidion Blwyddyn Newydd! Os ydych chi’n ysmygu mae addewidio i roi’r gorau iddi yr Addewid Blwyddyn Newydd gorau gallech addo i’ch hun. Fodd bynnag, er cymaint yr ymdrech, gall fod yn anodd dal ati…

Dyna pam yr ydym wedi dyfeisio ychydig o awgrymiadau i’ch helpu chi. Fodd bynnag, cyn dechrau… ystyriwch yr ystadegau hyn:

  1. Mae ysmygu yn achosi o leiaf 15 math gwahanol o ganser. (Cancer Research UK)
  2. Ysmygu yw’r achos marwolaeth y gellir ei rwystro mwyaf yn y byd. (Cancer Research UK)
  3. Ar gyfartaledd, mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n rhoi’r gorau i ysmygu yn arbed £ 250 y mis (SmokeFree)

15 Cancer Types

Manteision Iechyd Rhoi’r Gorau i Ysmygu

Pa fanteision iechyd sydd yna i roi’r gorau i ysmygu?

8 awr ar ôl rhoi’r gorau iddi

Mae lefelau nicotin a charbon monocsid yn y gwaed yn cael eu haneru ac mae eich lefelau ocsigen yn dychwelyd i normal.

24 awr ar ôl i chi roi’r gorau iddi

Mae carbon monocsid yn cael ei ddileu o’r corff; mae’r ysgyfaint yn dechrau clirio  mwcws a gweddillion eraill.

48 awr ar ôl i chi roi’r gorau iddi

Nid oes nicotin ar ôl yn eich corff ac mae’ch gallu i flasu ac arogli wedi gwella’n sylweddol.

72 awr ar ôl i chi roi’r gorau iddi

Rydych yn gallu anadlu’n haws. Mae’r tiwbiau bronciol yn dechrau ymlacio a dylai eich lefelau egni ddechrau cynyddu.

2-12 wythnos ar ôl i chi roi’r gorau iddi

Mae’ch cylchrediad yn gwella. Mae gwaed sydd llawn ocsigen yn llifo o gwmpas eich corff ac yn helpu i wella’ch iechyd.

3-9 mis ar ôl i chi roi’r gorau iddi

Mae’r pesychu a’r gwichian ar y frest yn gwella,  a bydd eich anadlu yn gwella hyd at 10%.

1 flwyddyn di-fwg

Bydd eich risg o gael trawiad ar y galon  wedi haneru o gymharu â’r risg i smygwr.

10 mlynedd yn ddi-fwg

Bydd eich risg o gael canser yr ysgyfaint wedi haneru o gymharu â’r risg i smygwr.

15 mlynedd yn ddi-fwg

Mae eich risg o gael trawiad ar y galon yn lleihau i’r un lefel â rhywun nad yw  erioed wedi ysmygu.

 Ein Cynghorion Call

 1. Peidiwch â Ceisio ei Wneud I Gyd Ar Eich Pen Eich Hun!

Wrth gwrs, nid oes rhaid ichi gael cefnogaeth, ond mae ystadegau’n dangos eich bod yn llawer mwy tebygol o roi’r gorau i ysmygu os oes gennych gefnogaeth. Gallwch gael llawer o wybodaeth a chyngor yma yn Iechyd Bro Ddyfi neu gallwch gael cymorth gan ddarparwyr eraill y GIG yn rhad ac am ddim:

  • https://www.nhs.uk/oneyou/for-your-body/quit-smoking/stoptober/
  • https://www.helpafiistopio.cymru/alla-i-ddewis-sut-i-roir-gorau-i-smygu/

2. Gwnewch Gynllun

Gwnewch addewid, penodwch ddyddiad a chadw ato.

Gall cadw at y rheol “dim drag” wirioneddol eich helpu.

Pan fydd pethau’n anodd – dywedwch wrthych eich hun, ” ‘Dwi ddim am hyd yn oed  cael un drag”, a chadw at hyn nes bydd yr awydd wedi mynd heibio.

Meddyliwch ymlaen at adegau pan fydd hyn yn anoddach (mewn parti, er enghraifft), a chynlluniwch yr hun wnewch chi a ffyrdd o’i osgoi, ymlaen llaw.

3. Dowch I Adnabod yr Adegau Pan Mae’r Awch i Ysmygu Ar Ei Waethaf

Gall yr awch am sigaret bara 5 munud. Cyn i chi roi’r gorau iddi, gwnewch restr o strategaethau 5 munud.

Er enghraifft, gallech adael y parti am funud, mynd i ddawnsio neu ewch i’r bar.

A cofiwch hyn: mae’r cyfuniad o ysmygu ac yfed yn ei  gwneud chi 38 gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu canser y geg.

4. Symudwch!

Mae adolygiad o astudiaethau gwyddonol yn profi fod ymarfer corff, hyd yn oed os mai dim ond cerdded  neu llaesu am 5 munud yr ydych,  yn rhwystro’r blys a gall helpu eich ymennydd i gynhyrchu cemegau gwrth-flysu.

5. Therapi Disodli Nicotin

Gall Therapi Disodli  Nicotin (NRT) ddyblu’ch siawns o lwyddo.

Yn ogystal â chlytiau nicotin, mae tabledi, lozenges, gwm a chwistrell trwynol ar gael i’ch helpu. Ac os ydych chi’n hoffi dal sigarét, mae yna gynhyrchion llaw fel yr anadlydd (inhalator) neu e-sigaréts.

Pan fyddwch allan, ceisiwch ddal eich diod yn y llaw sydd fel arfer yn dal sigarét, neu yfed trwy welltyn i gadw’ch ceg yn brysur.

6. Rhestrwch Eich Rhesymau Dros Roi’r Gorau Iddi

Bydd  rhestr fel hyn yn eich atgoffa  pam wnaethoch chi benderfynu rhoi’r gorau iddi. Cadwch restr o’r rhesymau wrth law a’i ddarllen pan fyddwch angen cymorth ar yr adegau anodd.

Dolenni Defnyddiol

  • Creu Cynllun Stopio Personol  (https://www.nhs.uk/oneyou/for-your-body/quit-smoking/stoptober/)
  • Cefnogaeth I stopio gan Ysmygwyr a Chyn-Ysmygwyr (https://healthunlocked.com/quitsupport)