Sut i Ymdopi a Chlefyd y Gwair
Mae hi’n amser godidog o’r flwyddyn – yr adar yn canu, yr wyn yn prancio, y dyddiau’n hirach, yr haul yn disgleirio (chydig mwy), y gwenyn yn suo… a’r paill yn lledaenu!
Mae nifer fawr o bobl yn croesawu dechrau’r gwanwyn a’r haf yn eiddgar. Ond i’r rhai hynny ohonoch sy’n dioddef o glefyd y gwair (wyddoch chi fod 1 mewn 5 person yn dioddef yn y DU?) mae’n ddechrau cyfnod anodd!
Gall symptomau clefyd y gwair gynnwys:
- Tisian a pheswch
- Trwyn yn diferu neu drwyn llawn
- Llygaid sy’n coch, yn cosi neu’n ddyfriog
- Gwddw, trwyn neu glustiau yn cosi
- Colli eich synnwyr arogleuo
- Poen o gwmpas eich wyneb a’ch talcen
- Cur pen/pen tost
- Pigyn clust
- Blinder
Os ydych yn dioddef o’r alergedd tymhorol hwn mae nifer o ffyrdd i’w wahardd neu i leihau ei effaith ar eich bywyd.
Beth sy’n achosi clefyd y gwair?
Alergedd i baill yw clefyd y gwair.
Gall fod yn, un o, neu gyfuniad o, baill coed, paill glaswellt neu baill chwyn. Y paill bach, ysgafn hwn, sy’n cael ei chwythu gan y gwynt o blanhigyn i blanhigyn, sy’n anochel yn eich dal chi yn y mwyafrif o achosion o glefyd y gwair.
Pryd mae hi yn dymor y paill?
Y newyddion da, neu newyddion drwg, ydy fod y tri prif math o baill yn blodeuo ar adegau gwahanol o’r flwyddyn. Gallwch ddioddef alergedd i un math o baill neu fod yn hynod anlwcus i ddioddef alergedd iddynt i gyd.
Yn gyffredinol, tymhorau y paill yw:
- Paill Coed – Ganol Mawrth hyd Ganol Mai
- Paill Glaswellt – Ganol Mai hyd Gorffennaf
- Paill Chwyn – Mehefin hyd Medi
Yn anffodus does dim iâchad parhaol i glefyd y gwair a ni allwch ei atal yn llwyr. Beth bynnag, fe allwch leddfu’r symptomau.
Sut i drin clefyd y gwair:
GWNEWCH
- rhoi ychydig o Vaseline (eli petrolewm) ar agoriadau’r trwyn i ddal gronynnau paill
- gwisgo sbectol haul sy’n lapio o gwmpas eich pen er mwyn atal paill rhag mynd i’ch llygaid tra byddwch chi yn yr awyr agored
- cael cawod a newid eich dillad ar ôl bod y tu allan i olchi’r paill oddi ar eich corff
- aros yn y tŷ cymaint a phosib
- cadw drysau a ffensestri ar gau cymaint a phosib
- defnyddio sugnydd llwch yn rheolaidd a thynnu llwch â chlwtyn llaith
- prynu hidlydd paill ar gyfer awyrellau (air-vents)
- cadw golwg ar arolygon y tywydd
- mynd i’r traeth
PEIDIWCH
- a thorri glaswellt/gwair neu gerdderd arno
- treulio gormod a amser yn yr awyr iach/tu allan
- cadw blodau ffres yn y tŷ
- ag ysmygu na bod ynghanol mwg
- sychu dillad y tu allan
- ganiatau i anifieliad anwes fynd mewn ac allan o’r tŷ yn rhy aml
- aros yn rhy hir mewn ardaloedd trefol sydd â llygredd uchel
Ceir mwy o gyngor ac awgrymiadau ar Allergy UK…
Angen mwy o gymorth? Ewch i weld fferyllydd
Siaradwch â gweithiwr iechyd proffesiynol am fwy o wybodaeth a thriniaethau megis diferion gwrth-histaminiau, tabledi a chwystrelli trwynol. Ewch at fferyllydd.
Gellir casglu gwybodaeth pellach o Feddygfeydd Iechyd Bro Ddyfi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud apwyntiad a’r feddygfa os yw’ch symptomau’n gwaethygu neu os nad yw’ch symptomau’n gwella ar ôl cymryd meddyginiaethau o’r fferyllfa.