Efallai y bydd ein system trefnu ac archebu apwyntiadau brys ac arferol yn ymddangos ychydig yn gymhleth ar y dechrau- ond, ar ôl dod i ddeall y camau daw popeth yn glir. Dyna pam rydym wedi derbyn cyngor gan Fforwm Cleifion Iechyd Bro Ddyfi er mwyn egluro’r camau ar sut i drefnu apwyntiadau a lle mae’r system alwadau ffôn Brysbennu newydd yn ffitio ynddo.

Y Cefndir yn Fras

Rydym i gyd yn ymwybodol y gall trefnu apwyntiad ymddangos yn beth anodd. Er bod miloedd o apwyntiadau yn cael eu methu yn Iechyd Bro Ddyfi bob blwyddyn (collwyd dros 2900 yn 2018), yn aml,  ni yn y feddygfa sydd yn wynebu rhwystredigaeth cleifion. Rydym bob amser yn gwneud ein gorau glas i’ch helpu chi ac yn ddiweddar rydym wedi gweithredu amryw ffordd newydd i helpu i leihau apwyntiadau a gollwyd, megis atgoffa trwy neges destun.

Mae gorfod aros am apwyntiad meddyg teulu yn broblem cenedlaethol… yn ôl Cyhoeddiad Pulse GP, dywedodd mwy na 22% o’r ymarferwyr a arolygwyd fod amseroedd aros / arwain yn medru ymestyn y tu hwnt i dair wythnos.

Yn syml, gweithredwyd y system Brysbennu Meddygon Teulu er mwyn  helpu sicrhau nad oedd amser meddyg a nyrs yn cael ei ddefnyddio ar apwyntiadau lle nad oes angen apwyntiad wyneb yn wyneb arnynt, fel annwyd a pheswch bob dydd, ac ati. Y nod yw sicrhau y bydd y rhai sydd wirioneddol angen gweld rhywun yn gorfforol yn cael gwneud hynny ac yn lleihau yr amser aros / arwain ar gyfer yr apwyntiadau hyn gan fod mwy o argaeledd.

System Brysbennu

Term ffansi yw Brysbennu sy’n golygu y bydd meddyg teulu hyfforddedig llawn yn eich ffonio ac yn siarad â chi am eich cyflwr. Yn syml, galwad ffôn am wybodaeth yw hon i benderfynu pwy fyddai’r aelod gorau o’n tîm i’ch helpu chi.

Yna bydd y Meddyg Brysbennu  yn gallu penderfynu a oes angen i chi weld rhywun yn y feddygfa ai peidio. Gallant, os yw’n berthnasol, hefyd drefnu triniaethau / meddyginiaeth, atgyfeiriadau a threfnu apwyntiadau.

Profwyd iddo wneud y broses yn llawer mwy effeithlon i gleifion a chlinigwyr

Llif Gwaith Penodi a Brysbennu

Mae’r diagram llif y broses isod yn dangos sut byddwn yn gwneud apwyntiadau, yn ogystal â  sut mae’r system Brysbennu Meddygon Teulu yn ffitio ynddo.

Sylwer

  • Mae  apwyntiadau yn llenwi yn gyflym iawn. Mae’n bwysig eich bod yn ffonio am 8am bob bore i gael y siawns orau o dderbyn apwyntiad brys.
  • Os am apwyntiad arferol, caniatewch hyd at:
    • Apwyntiad Nyrs Ymarferydd Uwch (1-2 wythnos)
    • Apwyntiad Meddyg Teulu (3-4 wythnos)