Ysbyty Gymunedol

Ysbyty Gymunedol

Ein meddygon teulu sydd yn darparu y gofal meddygol ar gyfer y 14 o welyau cleifion yn yr ysbyty gymunedol ym Machynlleth. Mae hyn yn caniatau i gleifion nad ydynt angen y lefel gofal uwch a geir mewn ysbytai cyffredinol i dderbyn gofal yn nes at eu teuluoedd.

Rydym mewn trafodaethau cyffrous gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ynglŷn â datblygu’r ysbyty gymunedol a’r gobaith yw bydd Canolfan Lles flaenllaw yno yn  gynnar yn 2018. Y bwriad yw integreiddio gwasanaethau meddygon teulu lleol hefo’r gwasanaeth iechyd meddwl,  gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau merched a phlant. Byddai hefyd yn gartref i glinigau cleifion allanol ymgynghorwyr, adran ffisiotherapi ac adnoddau peledr-X.

Rydym yn awyddus iawn i greu canolfan ar gyfer addysgu meddygaeth gwledig. Byddai myfyrwyr a hyfforddeion o bob cwr o Gymru yn dod yma i ddysgu am yr arbenigedd unigryw a heriol yma.

Iechyd Bro Ddyfi

Mae Iechyd Bro Ddyfi wedi ymrwymo i ddarparu gofal iechyd gorau posibl i'r gymuned.

© 2021 Dyfi Valley Health

RCGP  NHS Wales